7. Y mae aberth y cyfiawn yn dderbyniol,a'i goffadwriaeth yn ddigoll.
8. Rho ogoniant i'r Arglwydd yn hael,heb warafun iddo ddim o flaenffrwyth llafur dy ddwylo.
9. Bydd siriol dy wyneb ym mhob rhoi,a bydd lawen wrth gysegru dy ddegwm.
10. Rho i'r Goruchaf fel y rhoes ef i ti,yn hael, yn ôl yr ennill a gefaist.
11. Oherwydd un sy'n talu'n ôl yw'r Arglwydd,ac fe dâl yn ôl i ti seithwaith cymaint.
12. Paid â cheisio'i brynu â rhodd, oherwydd nis derbyn;a phaid ag ymddiried mewn aberth anghyfiawn;oherwydd barnwr yw'r Arglwyddnad yw'n ystyried safle neb.
13. Yn ddi-dderbyn-wyneb yn achos y tlawd,fe wrendy ar ei ble os cafodd gam.
14. Ni fydd byth yn ddiystyr o ddeisyfiad yr amddifad,nac o'r weddw sy'n tywallt ei chŵyn.
15. Onid yw dagrau'r weddw yn llif ar ei gruddiau,wrth iddi lefain yn erbyn y sawl a'u cyffrôdd?
16. Bydd y sawl sy'n gwasanaethu Duw ac yn rhyngu ei fodd yn gymeradwy,a bydd ei weddi yn esgyn hyd at y cymylau.
17. Y mae gweddi'r gostyngedig yn treiddio'r cymylau,ond nis bodlonir nes iddi gyrraedd ei nod.Ni fydd yn peidio, nes i'r Goruchaf ymweld ag efi farnu o blaid y cyfiawn, a gweini cosb.