Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 35:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Y mae aberth y cyfiawn yn dderbyniol,a'i goffadwriaeth yn ddigoll.

8. Rho ogoniant i'r Arglwydd yn hael,heb warafun iddo ddim o flaenffrwyth llafur dy ddwylo.

9. Bydd siriol dy wyneb ym mhob rhoi,a bydd lawen wrth gysegru dy ddegwm.

10. Rho i'r Goruchaf fel y rhoes ef i ti,yn hael, yn ôl yr ennill a gefaist.

11. Oherwydd un sy'n talu'n ôl yw'r Arglwydd,ac fe dâl yn ôl i ti seithwaith cymaint.

12. Paid â cheisio'i brynu â rhodd, oherwydd nis derbyn;a phaid ag ymddiried mewn aberth anghyfiawn;oherwydd barnwr yw'r Arglwyddnad yw'n ystyried safle neb.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 35