Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 35:10-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Rho i'r Goruchaf fel y rhoes ef i ti,yn hael, yn ôl yr ennill a gefaist.

11. Oherwydd un sy'n talu'n ôl yw'r Arglwydd,ac fe dâl yn ôl i ti seithwaith cymaint.

12. Paid â cheisio'i brynu â rhodd, oherwydd nis derbyn;a phaid ag ymddiried mewn aberth anghyfiawn;oherwydd barnwr yw'r Arglwyddnad yw'n ystyried safle neb.

13. Yn ddi-dderbyn-wyneb yn achos y tlawd,fe wrendy ar ei ble os cafodd gam.

14. Ni fydd byth yn ddiystyr o ddeisyfiad yr amddifad,nac o'r weddw sy'n tywallt ei chŵyn.

15. Onid yw dagrau'r weddw yn llif ar ei gruddiau,wrth iddi lefain yn erbyn y sawl a'u cyffrôdd?

16. Bydd y sawl sy'n gwasanaethu Duw ac yn rhyngu ei fodd yn gymeradwy,a bydd ei weddi yn esgyn hyd at y cymylau.

17. Y mae gweddi'r gostyngedig yn treiddio'r cymylau,ond nis bodlonir nes iddi gyrraedd ei nod.Ni fydd yn peidio, nes i'r Goruchaf ymweld ag efi farnu o blaid y cyfiawn, a gweini cosb.

18. Ni fydd yr Arglwydd byth yn oedi,ac ni fydd yn ymarhous wrthynt,nes iddo ddryllio llwynau'r anhrugarog,a dial ar y cenhedloedd;nes iddo fwrw allan dyrfa'r rhyfygusa dryllio teyrnwialen yr anghyfiawn;

19. nes iddo dalu'n ôl i bob un yn ôl ei gyflawniadau,a barnu gweithredoedd pawb yn ôl eu hamcanion;nes iddo mewn barn achub cam ei bobl,a pheri llawenydd iddynt â'i drugaredd.

20. Y mae trugaredd yn nydd cyfyngder mor amserol âchymylau glaw yn nydd sychder.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 35