Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 34:19-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Nid yw'r Goruchaf yn ymhyfrydu yn offrymau'r annuwiol,ac nid yw'n puro'u pechodau ar bwys amlder eu haberthau.

20. Y mae dwyn eiddo'r tlodion, a'i gynnig yn offrwm,fel aberthu mab yng ngŵydd ei dad.

21. Y mae bara'n fywyd i'r tlodion yn eu hangen,a llofrudd yw'r sawl a'i cymer oddi wrthynt.

22. Lladd ei gymydog y mae'r sawl sy'n dwyn ei fywoliaeth,a thywallt gwaed y mae'r sawl sy'n atal ei gyflog i weithiwr.

23. Os bydd un yn adeiladu a'r llall yn tynnu i lawr,pa elw fydd iddynt heblaw poen eu llafur?

24. Os bydd un yn gweddïo a'r llall yn melltithio,ar lais p'run y gwrendy'r Meistr?

25. Os ymolcha rhywun ar ôl cyffwrdd celain, a'i chyffwrdd eilwaith,pa faint gwell fydd o'i ymolchi?

26. Felly hefyd os ymprydia rhywun am ei bechodau,a mynd eilwaith a gwneud yr un pethau,pwy a wrendy ar ei weddi,a pha faint gwell fydd o'i ymostyngiad?

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 34