1. Gobeithion ofer a thwyllodrus sydd gan y diddeall,a breuddwydion yw adenydd ffŵl.
2. Fel un a gais ddal ei gysgod neu ymlid y gwynty mae'r sawl a rydd goel ar freuddwydion.
3. Nid yw'r hyn a welir mewn breuddwyd yn ddim namyn llun,cyffelybrwydd o wyneb mewn drych.
4. Beth a lanheir ag aflendid?A beth a wireddir â chelwydd?
5. Ofer pob dewiniaeth ac argoelion a breuddwydion—dychmygion y meddwl, fel eiddo gwraig mewn gwewyr esgor.
6. Onis anfonwyd gan ymweliad y Goruchaf,paid â chymryd sylw ohonynt.
7. Oherwydd y mae breuddwydion wedi arwain llawer ar gyfeiliorn,a dymchwel y rhai a obeithiodd ynddynt.
8. Cyflawnir y gyfraith heb gymorth y fath gelwydd,a chyflawnir doethineb ar enau geirwir.
9. Y mae'r sawl sydd wedi teithio wedi dysgu llawer,a bydd yr helaeth ei brofiead yn traethu synnwyr.
10. Ychydig a ŵyr y prin ei brofiad,ond bydd y sawl sydd wedi teithio yn amlhau ei fedrau.
11. Rwyf wedi gweld llawer ar fy nheithiau,ac rwy'n amgyffred pethau sydd y tu hwnt i'm geiriau.
12. Yn fynych bûm mewn perygl am fy einioes,ond dihengais ar bwys y profiadau hyn.
13. Byw fydd ysbryd y rhai sy'n ofni'r Arglwydd,oherwydd y mae eu gobaith ar un sy'n eu hachub.
14. Y sawl sy'n ofni'r Arglwydd, ni bydd nac ofnusna llwfr, oherwydd yn yr Arglwydd y mae ei obaith.
15. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r Arglwydd.Wrth bwy y mae'n disgwyl? Pwy yw ei gadernid ef?
16. Y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai sy'n ei garu,yn amddiffynfa gadarn ac yn gynhaliaeth gref,yn gysgod rhag gwres tanbaid a rhag haul canol dydd,yn ddiogelwch rhag baglu ac yn gymorth rhag cwympo.
17. Y mae'n codi eu hysbryd ac yn goleuo eu llygaid,gan roi iddynt iechyd a bywyd a bendith.
18. Halogedig yw offrwm a wneir o fudrelw,ac anghymeradwy yw rhoddion digyfraith.