Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 33:27-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Gyr ef at ei waith, i'w gadw rhag segura,oherwydd dysgodd segurdod lawer o gastiau drwg.

28. Gosod ef i weithio, i hynny y mae'n bod,ac os yw'n anufudd rho lyffetheiriau trymach arno.

29. Ond paid â gosod gormod o faich ar neb,na gwneud dim nad yw'n gyfiawn.

30. Os un caethwas sydd gennyt, bydded fel ti dy hun,oherwydd â gwaed y prynaist ef.

31. Os un caethwas sydd gennyt, trin ef fel brawd,oherwydd bydd rhaid iti wrtho ef fel wrthyt dy hun.Os byddi'n ei gam-drin, ac yntau'n codi a ffoi,pa ffordd yr ei di i chwilio amdano?

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 33