Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 33:22-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Ym mhopeth a wnei, myn fod ar y blaen,a phaid â goddef anaf i'th anrhydedd.

23. Yn y dydd y daw i ben ddyddiau d'einioes,yn amser dy farwolaeth, rhanna'r etifeddiaeth.

24. Porthiant a ffon a phwn sydd i asyn;bara a disgyblaeth a gwaith sydd i gaethwas.

25. Gwna i'th was weithio, ac fe gei di orffwys;gad ei ddwylo'n segur, a bydd yn ceisio'i ryddid.

26. Bydd iau a thennyn yn crymu gwar anifail,ac i'r caethwas drygionus y mae'r glwyd a'i harteithiau.

27. Gyr ef at ei waith, i'w gadw rhag segura,oherwydd dysgodd segurdod lawer o gastiau drwg.

28. Gosod ef i weithio, i hynny y mae'n bod,ac os yw'n anufudd rho lyffetheiriau trymach arno.

29. Ond paid â gosod gormod o faich ar neb,na gwneud dim nad yw'n gyfiawn.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 33