Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 33:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Fel y mae'r clai yn llaw'r crochenydd,i'w foldio'n union fel y bydd ef yn dewis,felly y mae pobl yn llaw eu Creawdwr,i'w trin yn union fel y bydd ef yn barnu.

14. Yn wrthwyneb i'r drwg y mae'r da,ac yn wrthwyneb i farwolaeth y mae bywyd;felly yn wrthwyneb i'r duwiol y mae'r pechadur.

15. Dyma sut yr wyt i edrych ar holl weithredoedd y Goruchaf:yn ddau a dau, a'r naill yn wrthwyneb i'r llall.

16. Myfi oedd yr olaf i ddeffro;yr oeddwn fel lloffwr yn dilyn y cynaeafwyr.Dan fendith yr Arglwydd achubais y blaen,a llenwi fy ngwinwryf fel cynaeafwr grawnwin.

17. Cofiwch nad trosof fy hunan yn unig y llafuriais,ond dros bawb sy'n ceisio addysg.

18. Gwrandewch arnaf, bendefigion y bobl,a chwi lywodraethwyr y gynulleidfa, trowch eich clust ataf.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 33