Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 33:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. O lawr y ddaear y daw'r ddynolryw gyfan,ac o'r pridd y crewyd Adda.

11. Yng nghyflawnder ei wybodaeth gwahaniaethodd yr Arglwydd rhyngddynt,a threfnu iddynt eu hamrywiol ffyrdd.

12. Bendithiodd rai ohonynt, a'u dyrchafu;sancteiddiodd rai, a'u dwyn yn agos ato'i hun.Ond melltithiodd eraill ohonynt, a'u darostwng,a'u symud o'u safleoedd.

13. Fel y mae'r clai yn llaw'r crochenydd,i'w foldio'n union fel y bydd ef yn dewis,felly y mae pobl yn llaw eu Creawdwr,i'w trin yn union fel y bydd ef yn barnu.

14. Yn wrthwyneb i'r drwg y mae'r da,ac yn wrthwyneb i farwolaeth y mae bywyd;felly yn wrthwyneb i'r duwiol y mae'r pechadur.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 33