Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 33:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ni ddaw niwed i ran y sawl sy'n ofni'r Arglwydd;mewn treialon fe'i gwaredir dro ar ôl tro.

2. Ni bydd y doeth yn casáu'r gyfraith,ac y mae'r sawl sy'n rhagrithio ynddi fel cwch mewn storm.

3. Bydd y deallus yn ymddiried yn y gyfraith,ac yn ei chael mor ddibynadwy ag oracl dwyfol.

4. O baratoi dy araith, cei wrandawiad;casgla dy ddysg yn becyn trefnus, ac yna rho dy ateb.

5. Troi fel olwyn trol y mae teimladau ffŵl,a'i feddyliau'n chwyldroi fel yr echel.

6. Y mae cyfaill coeglyd fel stalwyn,sy'n gweryru ni waeth pwy sydd ar ei gefn.

7. Pam y mae un dydd yn well na'r llall,er mai o'r haul y daw golau pob dydd o'r flwyddyn?

8. Yr Arglwydd a wahaniaethodd rhyngddynt trwy ei wybodaeth;ef a drefnodd yr amrywiol dymhorau a gwyliau,

9. gan wneud rhai ohonynt yn uchel-wyliau sanctaidd,a gosod eraill ymhlith rhifedi'r dyddiau cyffredin.

10. O lawr y ddaear y daw'r ddynolryw gyfan,ac o'r pridd y crewyd Adda.

11. Yng nghyflawnder ei wybodaeth gwahaniaethodd yr Arglwydd rhyngddynt,a threfnu iddynt eu hamrywiol ffyrdd.

12. Bendithiodd rai ohonynt, a'u dyrchafu;sancteiddiodd rai, a'u dwyn yn agos ato'i hun.Ond melltithiodd eraill ohonynt, a'u darostwng,a'u symud o'u safleoedd.

13. Fel y mae'r clai yn llaw'r crochenydd,i'w foldio'n union fel y bydd ef yn dewis,felly y mae pobl yn llaw eu Creawdwr,i'w trin yn union fel y bydd ef yn barnu.

14. Yn wrthwyneb i'r drwg y mae'r da,ac yn wrthwyneb i farwolaeth y mae bywyd;felly yn wrthwyneb i'r duwiol y mae'r pechadur.

15. Dyma sut yr wyt i edrych ar holl weithredoedd y Goruchaf:yn ddau a dau, a'r naill yn wrthwyneb i'r llall.

16. Myfi oedd yr olaf i ddeffro;yr oeddwn fel lloffwr yn dilyn y cynaeafwyr.Dan fendith yr Arglwydd achubais y blaen,a llenwi fy ngwinwryf fel cynaeafwr grawnwin.

17. Cofiwch nad trosof fy hunan yn unig y llafuriais,ond dros bawb sy'n ceisio addysg.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 33