17. Bydd y pechadurus yn gwrthod cerydd,ac yn darganfod cyfiawnhad dros wneud ei ewyllys ei hun.
18. Nid yw'r pwyllog byth yn diystyru awgrym;ni ŵyr y pagan balch beth yw gwargrymu mewn ofn.
19. Paid â gwneud dim heb ymbwyllo;yna, ar ôl ei wneud, ni fydd yn edifar gennyt.
20. Paid â theithio ar hyd ffordd lawn o rwystrau,i faglu ar draws yr holl gerrig sydd arni.
21. Paid â bod yn or-hyderus ar ffordd ddirwystr,
22. a gwylia lle'r wyt yn mynd.
23. Ym mhopeth a wnei, cred ynot ti dy hun,oherwydd dyna beth yw cadw'r gorchmynion.
24. Y mae'r sawl sy'n credu yn y gyfraith a gofal ganddo am y gorchmynion,ac ni bydd y sawl sy'n ymddiried yn yr Arglwydd yn ôl am ddim.