Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 32:16-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Bydd y rhai sy'n ofni'r Arglwydd yn gallu barnu'n deg,a bydd eu gweithredoedd cyfiawn yn llewyrchu fel goleuni.

17. Bydd y pechadurus yn gwrthod cerydd,ac yn darganfod cyfiawnhad dros wneud ei ewyllys ei hun.

18. Nid yw'r pwyllog byth yn diystyru awgrym;ni ŵyr y pagan balch beth yw gwargrymu mewn ofn.

19. Paid â gwneud dim heb ymbwyllo;yna, ar ôl ei wneud, ni fydd yn edifar gennyt.

20. Paid â theithio ar hyd ffordd lawn o rwystrau,i faglu ar draws yr holl gerrig sydd arni.

21. Paid â bod yn or-hyderus ar ffordd ddirwystr,

22. a gwylia lle'r wyt yn mynd.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 32