Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 32:11-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Cod i ymadael yn brydlon; paid â bod yn olaf;brysia adref yn ddiymdroi.

12. Yno cei ymlacio a gwneud a fynni,heb bechu trwy siarad balch.

13. Ac at hyn oll, bendithia dy Greawdwr,a lanwodd dy gwpan â'i roddion daionus.

14. Bydd y sawl sy'n ofni'r Arglwydd yn derbyn ei ddisgyblaeth,a'r rhai sy'n codi'n fore i'w geisio yn ennill ei ffafr.

15. Bydd y sawl sy'n rhoi ei fryd ar y gyfraith yn cael boddhad ynddi,ond achos cwymp fydd hi i'r rhagrithiwr.

16. Bydd y rhai sy'n ofni'r Arglwydd yn gallu barnu'n deg,a bydd eu gweithredoedd cyfiawn yn llewyrchu fel goleuni.

17. Bydd y pechadurus yn gwrthod cerydd,ac yn darganfod cyfiawnhad dros wneud ei ewyllys ei hun.

18. Nid yw'r pwyllog byth yn diystyru awgrym;ni ŵyr y pagan balch beth yw gwargrymu mewn ofn.

19. Paid â gwneud dim heb ymbwyllo;yna, ar ôl ei wneud, ni fydd yn edifar gennyt.

20. Paid â theithio ar hyd ffordd lawn o rwystrau,i faglu ar draws yr holl gerrig sydd arni.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 32