Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 32:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Os cei dy benodi'n llywydd gwledd, paid ag ymddyrchafu;bydd yn eu plith fel un ohonynt hwy;gofala amdanynt hwy cyn eistedd dy hun.

2. Ar ôl cyflawni pob dyletswydd, yna cymer dy le wrth y bwrdd,ac felly cei lawenydd yn dy westeion,a thorch ar dy ben am drefnu'r wledd mor dda.

3. Os wyt yn hen, llefara—dyna dy fraint—ond yn fyr ac i bwynt, a heb darfu ar y gân.

4. Tra pery'r perfformiad, rho daw ar dy gleber,a phaid â doethinebu'n annhymig.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 32