Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 32:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Os cei dy benodi'n llywydd gwledd, paid ag ymddyrchafu;bydd yn eu plith fel un ohonynt hwy;gofala amdanynt hwy cyn eistedd dy hun.

2. Ar ôl cyflawni pob dyletswydd, yna cymer dy le wrth y bwrdd,ac felly cei lawenydd yn dy westeion,a thorch ar dy ben am drefnu'r wledd mor dda.

3. Os wyt yn hen, llefara—dyna dy fraint—ond yn fyr ac i bwynt, a heb darfu ar y gân.

4. Tra pery'r perfformiad, rho daw ar dy gleber,a phaid â doethinebu'n annhymig.

5. Insel o ruddem mewn tlws o auryw cynghanedd cân yn y gyfeddach win;

6. insel o emrallt mewn addurn o auryw nodau cân wrth flasu melyster y gwin.

7. Os ifanc wyt, llefara'n unig os bydd rhaid,a dwywaith ar y mwyaf, oni ofynnir cwestiwn iti.

8. Bydd yn gryno, gan ddweud llawer mewn ychydig;bydd fel un sy'n gwybod, ac eto'n gallu tewi.

9. Yng nghwmni mawrion, paid â chystadlu â hwy,a pharablu llawer pan fydd rhywun arall yn siarad.

10. Y mae mellt yn fflachio o flaen y daran,a chymeradwyaeth yn rhagflaenu rhywun gwylaidd.

11. Cod i ymadael yn brydlon; paid â bod yn olaf;brysia adref yn ddiymdroi.

12. Yno cei ymlacio a gwneud a fynni,heb bechu trwy siarad balch.

13. Ac at hyn oll, bendithia dy Greawdwr,a lanwodd dy gwpan â'i roddion daionus.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 32