Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 30:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Rho fwythau i blentyn, a daw â braw iti;bydd chwareus gydag ef, a daw â thrallod iti.

10. Paid â chwerthin gydag ef, rhag iti ofidio gydag ef,a'th gael yn y diwedd yn rhincian dy ddannedd.

11. Paid â rhoi rhyddid iddo yn ei ieuenctid,a phaid ag anwybyddu ei gamgymeriadau.

12. Plyga'i war ef yn ei ieuenctid,a phwnio'i asennau pan yw'n blentyn,rhag iddo fynd yn anhydrin ac anufudd,a pheri gofid iti.

13. Disgybla dy fab, a chymer drafferth ag ef,rhag i'w ymddygiad anweddus fod yn dramgwydd iti.

14. Gwell bod yn dlwad ac iach a chryf o gyfansoddiadna bod yn gyfoethog a chystuddiedig o gorff.

15. Y mae iechyd a chyfansoddiad cryf yn well na'r aur i gyd,a chorff nerthol na golud difesur.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 30