Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 30:7-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Bydd dyn sy'n maldodi ei fab yn rhwymo'i friwiau i gyd,a bydd ei deimladau mewn cynnwrf wrth bob cri.

8. Y mae ebol heb ei ddofi yn tyfu'n geffyl anhydrin,a mab heb ei reoli yn tyfu'n ddyn anhywaith.

9. Rho fwythau i blentyn, a daw â braw iti;bydd chwareus gydag ef, a daw â thrallod iti.

10. Paid â chwerthin gydag ef, rhag iti ofidio gydag ef,a'th gael yn y diwedd yn rhincian dy ddannedd.

11. Paid â rhoi rhyddid iddo yn ei ieuenctid,a phaid ag anwybyddu ei gamgymeriadau.

12. Plyga'i war ef yn ei ieuenctid,a phwnio'i asennau pan yw'n blentyn,rhag iddo fynd yn anhydrin ac anufudd,a pheri gofid iti.

13. Disgybla dy fab, a chymer drafferth ag ef,rhag i'w ymddygiad anweddus fod yn dramgwydd iti.

14. Gwell bod yn dlwad ac iach a chryf o gyfansoddiadna bod yn gyfoethog a chystuddiedig o gorff.

15. Y mae iechyd a chyfansoddiad cryf yn well na'r aur i gyd,a chorff nerthol na golud difesur.

16. Nid oes cyfoeth gwell na iechyd corffna llonder llawnach na llawenydd calon.

17. Gwell marwolaeth na bywyd o drueni,a gorffwys tragwyddol nag afiechyd sy'n parhau.

18. Y mae tywallt danteithion gerbron rhywun a'i geg wedi ei chaufel gosod offrymau o fwyd ar fedd.

19. Pa les yw offrwm i eilun,ac yntau heb allu blasu nac arogli dim?Dyna gyflwr y sawl a gystuddir gan yr Arglwydd.

20. Y mae'n gweld â'i lygaid ac yn griddfan,griddfan fel y bydd eunuch wrth gofleidio gwyryf.

21. Paid ag ymollwng i dristwch,nac ymgystuddio o'th wirfodd.

22. Y mae llonder calon yn fywyd i rywun,a gorfoledd rhywun yn estyn ei ddyddiau.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 30