Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 30:15-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Y mae iechyd a chyfansoddiad cryf yn well na'r aur i gyd,a chorff nerthol na golud difesur.

16. Nid oes cyfoeth gwell na iechyd corffna llonder llawnach na llawenydd calon.

17. Gwell marwolaeth na bywyd o drueni,a gorffwys tragwyddol nag afiechyd sy'n parhau.

18. Y mae tywallt danteithion gerbron rhywun a'i geg wedi ei chaufel gosod offrymau o fwyd ar fedd.

19. Pa les yw offrwm i eilun,ac yntau heb allu blasu nac arogli dim?Dyna gyflwr y sawl a gystuddir gan yr Arglwydd.

20. Y mae'n gweld â'i lygaid ac yn griddfan,griddfan fel y bydd eunuch wrth gofleidio gwyryf.

21. Paid ag ymollwng i dristwch,nac ymgystuddio o'th wirfodd.

22. Y mae llonder calon yn fywyd i rywun,a gorfoledd rhywun yn estyn ei ddyddiau.

23. Difyrra dy hun a diddana dy galon,a chadw dristwch ymhell oddi wrthyt;oherwydd bu tristwch yn angau i lawer,ac ni ddaw unrhyw fudd ohono.

24. Y mae cenfigen a llid yn byrhau dyddiau rhywun,a phryder yn peri iddo heneiddio cyn pryd.

25. Y mae calon hael a siriol yn creu archwaethac yn rhoi blas ar ymborth rhywun.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 30