Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 30:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Paid â rhoi rhyddid iddo yn ei ieuenctid,a phaid ag anwybyddu ei gamgymeriadau.

12. Plyga'i war ef yn ei ieuenctid,a phwnio'i asennau pan yw'n blentyn,rhag iddo fynd yn anhydrin ac anufudd,a pheri gofid iti.

13. Disgybla dy fab, a chymer drafferth ag ef,rhag i'w ymddygiad anweddus fod yn dramgwydd iti.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 30