Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 30:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Bydd dyn sy'n caru ei fab yn ei chwipio'n fynych,er mwyn cael llawenydd ynddo yn ddiweddarach.

2. Bydd dyn sy'n disgyblu ei fab yn cael budd ohono,a chaiff ymffrostio ynddo ymhlith ei gydnabod.

3. Bydd dyn a rydd addysg i'w fab yn deffro eiddigedd ei elyn,a chaiff ymfalchïo ynddo yng ngŵydd ei gyfeillion.

4. Pan fydd y tad wedi marw, bydd fel petai heb farw,gan iddo adael ei debyg ar ei ôl.

5. Yn ei fywyd fe'i gwelodd a llawenychu ynddo,ac yn ei farw ni phrofodd dristwch.

6. Gadawodd etifedd i ddial ar ei elynionac i dalu'n ôl garedigrwydd ei gyfeillion.

7. Bydd dyn sy'n maldodi ei fab yn rhwymo'i friwiau i gyd,a bydd ei deimladau mewn cynnwrf wrth bob cri.

8. Y mae ebol heb ei ddofi yn tyfu'n geffyl anhydrin,a mab heb ei reoli yn tyfu'n ddyn anhywaith.

9. Rho fwythau i blentyn, a daw â braw iti;bydd chwareus gydag ef, a daw â thrallod iti.

10. Paid â chwerthin gydag ef, rhag iti ofidio gydag ef,a'th gael yn y diwedd yn rhincian dy ddannedd.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 30