Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 3:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. ac y mae'r hwn sy'n mawrhau ei fam fel un sy'n casglu trysor iddo'i hun.

5. Yr hwn sy'n anrhydeddu ei dad, caiff yntau lawenydd gan ei blant,a phan ddaw dydd iddo weddïo, gwrandewir arno.

6. Yr hwn sy'n anrhydeddu ei dad, fe wêl hir ddyddiau,a'r hwn sy'n ufuddhau i'r Arglwydd, rhydd orffwys i'w fam.

7. A bydd yn gweini ar ei rieni fel caethwas ar ei feistri.

8. Parcha dy dad ar weithred ac ar air,er mwyn i'w fendith ddisgyn arnat.

9. Oherwydd bendith tad sy'n rhoi cadernid i gartrefi'r plant,ond y mae melltith mam yn tanseilio'u sylfeini.

10. Paid â cheisio clod i ti dy hun ar draul anfri dy dad,canys nid clod i ti yw anfri dy dad.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 3