Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 3:29-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Bydd meddwl y deallus yn myfyrio ar ddihareb,a dymuniad y doeth yw ennill clust y gwrandawr.

30. Bydd dŵr yn diffodd fflamau tân,a bydd elusen yn difa aflendid pechodau.

31. Y mae'r hwn a wna gymwynas yn ei dro yn edrych i'r dyfodol,ac yn nydd ei gwymp fe gaiff gynhaliaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 3