Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 3:24-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Oherwydd twyllwyd llawer gan eu dyfaliadau eu hunain,a pharodd dychmygion drwg i'w barn lithro.

26. Drwg fydd i'r meddwl ystyfnig yn y diwedd,a'r sawl sy'n hoffi perygl, fe'i dinistrir ganddo.

27. Ei lethu gan boenau a gaiff y meddwl ystyfnig,a llwytho pechod ar bechod a wna'r pechadur.

28. Nid oes iachâd pan ddaw aflwydd ar y balch,oherwydd y mae tyfiant drwg wedi gwreiddio o'i fewn.

29. Bydd meddwl y deallus yn myfyrio ar ddihareb,a dymuniad y doeth yw ennill clust y gwrandawr.

30. Bydd dŵr yn diffodd fflamau tân,a bydd elusen yn difa aflendid pechodau.

31. Y mae'r hwn a wna gymwynas yn ei dro yn edrych i'r dyfodol,ac yn nydd ei gwymp fe gaiff gynhaliaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 3