16. Yr hwn sy'n cefnu ar ei dad, nid yw namyn cablwr,a'r hwn sy'n cythruddo'i fam, dan felltith yr Arglwydd y mae.
17. Fy mab, dos ymlaen â'th waith yn wylaidd,ac fe'th gerir gan y rhai sy'n gymeradwy gan Dduw.
18. Po fwyaf yr wyt, mwyaf y dylit dy ddarostwng dy hun;a chei ffafr gan yr Arglwydd.
20. Oherwydd mawr yw gallu'r Arglwydd,ac fe'i gogoneddir gan y rhai gostyngedig.
21. Paid ag ymhél â phethau sy'n rhy anodd iti,a phaid ag ymchwilio i bethau sydd uwchlaw dy allu.
22. Ystyria'r pethau hynny a orchmynnwyd iti,oherwydd nid oes arnat angen y pethau cudd.
23. Paid ag ymyrryd yn y pethau nad oes a wnelych di â hwy,oherwydd dangoswyd i ti fwy nag y gall ynrhyw un ei ddeall.
24. Oherwydd twyllwyd llawer gan eu dyfaliadau eu hunain,a pharodd dychmygion drwg i'w barn lithro.
26. Drwg fydd i'r meddwl ystyfnig yn y diwedd,a'r sawl sy'n hoffi perygl, fe'i dinistrir ganddo.