Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 3:14-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Oherwydd nid anghofir caredigrwydd i dad;fe'i codir yn gaer o'th gylch rhag cosb dy bechodau.

15. Yn nydd dy gyfyngder fe gofir amdano o'th blaid,a diflanna dy bechodau fel barrug dan heulwen.

16. Yr hwn sy'n cefnu ar ei dad, nid yw namyn cablwr,a'r hwn sy'n cythruddo'i fam, dan felltith yr Arglwydd y mae.

17. Fy mab, dos ymlaen â'th waith yn wylaidd,ac fe'th gerir gan y rhai sy'n gymeradwy gan Dduw.

18. Po fwyaf yr wyt, mwyaf y dylit dy ddarostwng dy hun;a chei ffafr gan yr Arglwydd.

20. Oherwydd mawr yw gallu'r Arglwydd,ac fe'i gogoneddir gan y rhai gostyngedig.

21. Paid ag ymhél â phethau sy'n rhy anodd iti,a phaid ag ymchwilio i bethau sydd uwchlaw dy allu.

22. Ystyria'r pethau hynny a orchmynnwyd iti,oherwydd nid oes arnat angen y pethau cudd.

23. Paid ag ymyrryd yn y pethau nad oes a wnelych di â hwy,oherwydd dangoswyd i ti fwy nag y gall ynrhyw un ei ddeall.

24. Oherwydd twyllwyd llawer gan eu dyfaliadau eu hunain,a pharodd dychmygion drwg i'w barn lithro.

26. Drwg fydd i'r meddwl ystyfnig yn y diwedd,a'r sawl sy'n hoffi perygl, fe'i dinistrir ganddo.

27. Ei lethu gan boenau a gaiff y meddwl ystyfnig,a llwytho pechod ar bechod a wna'r pechadur.

28. Nid oes iachâd pan ddaw aflwydd ar y balch,oherwydd y mae tyfiant drwg wedi gwreiddio o'i fewn.

29. Bydd meddwl y deallus yn myfyrio ar ddihareb,a dymuniad y doeth yw ennill clust y gwrandawr.

30. Bydd dŵr yn diffodd fflamau tân,a bydd elusen yn difa aflendid pechodau.

31. Y mae'r hwn a wna gymwynas yn ei dro yn edrych i'r dyfodol,ac yn nydd ei gwymp fe gaiff gynhaliaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 3