Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 3:13-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. A phan fydd ei synnwyr yn pallu, dylit gydymddwyn ag ef,a phaid â'i ddirmygu am dy fod ti yn dy lawn gryfder.

14. Oherwydd nid anghofir caredigrwydd i dad;fe'i codir yn gaer o'th gylch rhag cosb dy bechodau.

15. Yn nydd dy gyfyngder fe gofir amdano o'th blaid,a diflanna dy bechodau fel barrug dan heulwen.

16. Yr hwn sy'n cefnu ar ei dad, nid yw namyn cablwr,a'r hwn sy'n cythruddo'i fam, dan felltith yr Arglwydd y mae.

17. Fy mab, dos ymlaen â'th waith yn wylaidd,ac fe'th gerir gan y rhai sy'n gymeradwy gan Dduw.

18. Po fwyaf yr wyt, mwyaf y dylit dy ddarostwng dy hun;a chei ffafr gan yr Arglwydd.

20. Oherwydd mawr yw gallu'r Arglwydd,ac fe'i gogoneddir gan y rhai gostyngedig.

21. Paid ag ymhél â phethau sy'n rhy anodd iti,a phaid ag ymchwilio i bethau sydd uwchlaw dy allu.

22. Ystyria'r pethau hynny a orchmynnwyd iti,oherwydd nid oes arnat angen y pethau cudd.

23. Paid ag ymyrryd yn y pethau nad oes a wnelych di â hwy,oherwydd dangoswyd i ti fwy nag y gall ynrhyw un ei ddeall.

24. Oherwydd twyllwyd llawer gan eu dyfaliadau eu hunain,a pharodd dychmygion drwg i'w barn lithro.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 3