Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 3:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwrandewch, blant, arnaf fi, eich tad,a gweithredwch ar fy ngeiriau, ichwi gael eich cadw'n ddiogel.

2. Oherwydd mynnodd yr Arglwydd anrhydedd i'r tad gan ei blant,a sicrhaodd barch i awdurdod y fam gan ei meibion.

3. Y mae'r hwn sy'n anrhydeddu ei dad yn sicrhau puredigaeth pechodau,

4. ac y mae'r hwn sy'n mawrhau ei fam fel un sy'n casglu trysor iddo'i hun.

5. Yr hwn sy'n anrhydeddu ei dad, caiff yntau lawenydd gan ei blant,a phan ddaw dydd iddo weddïo, gwrandewir arno.

6. Yr hwn sy'n anrhydeddu ei dad, fe wêl hir ddyddiau,a'r hwn sy'n ufuddhau i'r Arglwydd, rhydd orffwys i'w fam.

7. A bydd yn gweini ar ei rieni fel caethwas ar ei feistri.

8. Parcha dy dad ar weithred ac ar air,er mwyn i'w fendith ddisgyn arnat.

9. Oherwydd bendith tad sy'n rhoi cadernid i gartrefi'r plant,ond y mae melltith mam yn tanseilio'u sylfeini.

10. Paid â cheisio clod i ti dy hun ar draul anfri dy dad,canys nid clod i ti yw anfri dy dad.

11. Oherwydd daw clod i ddyn o'r bri a roddir i'w dad,a gwarth i blant yw anghlod eu mam.

12. Fy mab, cynorthwya dy dad yn ei henaint,a phaid â'i dristáu tra bydd ef byw.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 3