Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 29:6-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Er iddo wasgu, prin y caiff yr echwynnwr yr hanner yn ôl,a bydd yn cyfrif hynny yn gael ffodus;os amgen, bydd y benthyciwr wedi ei ysbeilio o'i arian,ac yntau wedi ennill gelyn heb achos;melltith a difenwad a gaiff yn ad-daliad,ac amarch yn hytrach nag anrhydedd.

7. Y mae llawer yn gwrthod rhoi ar fenthyg, er nad o falais;ofn cael eu colledu heb achos sydd arnynt.

8. Er hynny, bydd yn amyneddgar wrth yr anghenus,a phaid ag oedi rhoi d'elusen iddo.

9. Er mwyn y gorchymyn cynorthwya'r tlawd,ac yn ei angen paid â'i droi ymaith yn waglaw.

10. Gwell yw colli dy arian er mwyn brawd neu gyfaillna'i golli trwy ei adael i rydu dan garreg.

11. Storia dy drysor yn ôl gorchmynion y Goruchaf,ac fe dâl i ti yn well nag aur.

12. Rho elusengarwch ynghadw yn d'ystordai,a bydd yn waredigaeth iti rhag pob aflwydd.

13. Cryfach na tharian, grymusach na phicell,fydd arfogaeth o'r fath iti i ymladd â'th elyn.

14. Rhywun da fydd yn mechnïo dros ei gymydog,ac un a gollodd bob cywilydd fydd yn cefnu arno.

15. Paid ag anghofio caredigrwydd dy fechnïwr,oherwydd fe roes ei fywyd er dy fwyn.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 29