Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 29:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Boed gennyt ychydig neu lawer, bydd fodlon arno,a phaid ag ennill enw fel un sy'n hel tai.

24. Bywyd gwael yw crwydro o dŷ i dŷheb feiddio agor dy geg am mai dieithryn wyt yno.

25. Cei weini ar y lletywyr, a llenwi eu cwpanau, yn gwbl ddiddiolch,heb sôn am ufuddhau i'w galwadau croch:

26. “Tyrd yma, ddieithryn, gosod y bwrdd,gad imi flasu beth bynnag sydd yn dy law.”

27. “Ffwrdd â thi, ddyn dieithr, rho dy le i'th well;mae fy mrawd am gael llety; mae angen y tŷ arnaf.”

28. Profiad caled yw hwn i ddyn deallus:cael cerydd gan y teulu, a sarhad gan fenthyciwr arian.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 29