Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 29:12-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Rho elusengarwch ynghadw yn d'ystordai,a bydd yn waredigaeth iti rhag pob aflwydd.

13. Cryfach na tharian, grymusach na phicell,fydd arfogaeth o'r fath iti i ymladd â'th elyn.

14. Rhywun da fydd yn mechnïo dros ei gymydog,ac un a gollodd bob cywilydd fydd yn cefnu arno.

15. Paid ag anghofio caredigrwydd dy fechnïwr,oherwydd fe roes ei fywyd er dy fwyn.

16. Y pechadurus fydd yn dymchwel llwyddiant ei fechnïwr,a'r diddiolch fydd yn gollwng dros gof y sawl a'i gwaredodd.

17. Dinistriodd mechnïaeth lawer a rai cefnog,a'u siglo fel y gwna tonnau'r môr;

18. gyrrodd rai nerthol o'u cartrefii grwydro mewn gwledydd estron.

19. Pan fydd pechadur yn ymrwymo i fechnïaetha'i fryd ar elw, ymrwymo y bydd i achosion llys.

20. Cynorthwya dy gymydog hyd eithaf dy allu,ond gwylia rhag i ti gael dy ddal gan d'ymrwymiad.

21. Hanfodion bywyd yw dŵr a bara a dillad,a thŷ fydd yn lloches rhag anwedduster.

22. Gwell yw byw'n dlawd mewn cwt o brenna chael danteithion moethus dan do dieithriaid.

23. Boed gennyt ychydig neu lawer, bydd fodlon arno,a phaid ag ennill enw fel un sy'n hel tai.

24. Bywyd gwael yw crwydro o dŷ i dŷheb feiddio agor dy geg am mai dieithryn wyt yno.

25. Cei weini ar y lletywyr, a llenwi eu cwpanau, yn gwbl ddiddiolch,heb sôn am ufuddhau i'w galwadau croch:

26. “Tyrd yma, ddieithryn, gosod y bwrdd,gad imi flasu beth bynnag sydd yn dy law.”

27. “Ffwrdd â thi, ddyn dieithr, rho dy le i'th well;mae fy mrawd am gael llety; mae angen y tŷ arnaf.”

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 29