Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 29:10-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Gwell yw colli dy arian er mwyn brawd neu gyfaillna'i golli trwy ei adael i rydu dan garreg.

11. Storia dy drysor yn ôl gorchmynion y Goruchaf,ac fe dâl i ti yn well nag aur.

12. Rho elusengarwch ynghadw yn d'ystordai,a bydd yn waredigaeth iti rhag pob aflwydd.

13. Cryfach na tharian, grymusach na phicell,fydd arfogaeth o'r fath iti i ymladd â'th elyn.

14. Rhywun da fydd yn mechnïo dros ei gymydog,ac un a gollodd bob cywilydd fydd yn cefnu arno.

15. Paid ag anghofio caredigrwydd dy fechnïwr,oherwydd fe roes ei fywyd er dy fwyn.

16. Y pechadurus fydd yn dymchwel llwyddiant ei fechnïwr,a'r diddiolch fydd yn gollwng dros gof y sawl a'i gwaredodd.

17. Dinistriodd mechnïaeth lawer a rai cefnog,a'u siglo fel y gwna tonnau'r môr;

18. gyrrodd rai nerthol o'u cartrefii grwydro mewn gwledydd estron.

19. Pan fydd pechadur yn ymrwymo i fechnïaetha'i fryd ar elw, ymrwymo y bydd i achosion llys.

20. Cynorthwya dy gymydog hyd eithaf dy allu,ond gwylia rhag i ti gael dy ddal gan d'ymrwymiad.

21. Hanfodion bywyd yw dŵr a bara a dillad,a thŷ fydd yn lloches rhag anwedduster.

22. Gwell yw byw'n dlawd mewn cwt o brenna chael danteithion moethus dan do dieithriaid.

23. Boed gennyt ychydig neu lawer, bydd fodlon arno,a phaid ag ennill enw fel un sy'n hel tai.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 29