Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 29:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae'r trugarog yn rhoi benthyg i'w gymydog,ac wrth estyn ei law i'w gynnal y mae'n cadw'r gorchmynion.

2. Rho fenthyg i'th gymydog yn awr ei angen,a thâl dithau'n ôl i'th gymydog yn ei iawn bryd.

3. Gwiredda dy air a chadw gyfamod ag ef,a chei ddigon bob amser at dy angen.

4. Y mae llawer yn ystyried cael ar fenthyg yn gael i gadw,ac yn peri blinder i'r rhai a wnaeth y gymwynas â hwy.

5. Hyd nes iddo gael, bydd rhywun yn cusanu llaw ei gymydog,ac yn sôn am arian hwnnw â goslef o barch;ond pan ddaw'n amser ad-dalu y mae'n oedi ac oedi,heb dalu dim yn ôl ond geiriau didaro,gan gwyno bod yr amser yn brin.

6. Er iddo wasgu, prin y caiff yr echwynnwr yr hanner yn ôl,a bydd yn cyfrif hynny yn gael ffodus;os amgen, bydd y benthyciwr wedi ei ysbeilio o'i arian,ac yntau wedi ennill gelyn heb achos;melltith a difenwad a gaiff yn ad-daliad,ac amarch yn hytrach nag anrhydedd.

7. Y mae llawer yn gwrthod rhoi ar fenthyg, er nad o falais;ofn cael eu colledu heb achos sydd arnynt.

8. Er hynny, bydd yn amyneddgar wrth yr anghenus,a phaid ag oedi rhoi d'elusen iddo.

9. Er mwyn y gorchymyn cynorthwya'r tlawd,ac yn ei angen paid â'i droi ymaith yn waglaw.

10. Gwell yw colli dy arian er mwyn brawd neu gyfaillna'i golli trwy ei adael i rydu dan garreg.

11. Storia dy drysor yn ôl gorchmynion y Goruchaf,ac fe dâl i ti yn well nag aur.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 29