9. a'r pechadurus yn creu helynt rhwng cyfeillion,ac yn tarfu ar bobl heddychlon â'i ensyniadau enllibus.
10. Yn ôl y tanwydd a roir arno y llosga'r tân,ac yn ôl poethder y cweryl y llosga'i fflam yntau;yn ôl ei nerth y bydd llidiogrwydd rhywun,ac yn ôl ei gyfoeth y cwyd ei ddicter.
11. Y mae ymryson sydyn yn cynnau tân,a chweryl sydyn yn peri tywallt gwaed.
12. Chwytha ar wreichionen, a gloywi a wna;poera arni, ac fe ddiffydd;o'th enau di y daw'r ddeubeth.
13. Melltithiwch y clepgi a'r dyblyg ei dafod,oherwydd dinistriodd ef lawer o bobl heddychlon.
14. Y mae trydydd tafod wedi tarfu ar lawer,a'u hymlid o genedl i genedl,gan ddifrodi dinasoedd caeroga dymchwelyd tai y mawrion.
15. Y mae trydydd tafod wedi gyrru gwragedd priod o'u cartrefi,a'u hamddifadu o ffrwyth eu llafur.
16. A rydd goel arno, ni bydd gorffwys iddo mwy,na thawelwch yn ei drigle.
17. Y mae llach ffrewyll yn gadael clais,ond y mae llach tafod yn torri esgyrn.