18. Cwympodd llawer gan fin y cleddyf,ond nid cynifer ag a gwympodd o achos y tafod.
19. Gwyn ei fyd y sawl a gafodd noddfa rhagddo,ac na phrofodd erwinder ei lid;y sawl na wingodd dan ei iau,na'i gael ei hun yn rhwymyn ei gadwyni.
20. Oherwydd iau'r tafod, iau o haearn yw,a chadwyni o bres yw ei gadwyni.
21. Marwolaeth erchyll yw'r farwolaeth a geir ganddo;dewisach yw Trigfan y Meirw na'r tafod.
22. Ni chaiff wastrodaeth ar y rhai duwiol,ac ni losgir hwy gan ei fflam.
23. Y rhai sy'n cefnu ar yr Arglwydd a fyddant yn ysglyfaeth y tafod;bydd yn llosgi'n anniffodd yn eu plith.Gollyngir ef arnynt fel llew,ac fe'u llarpia fel llewpart.
24. Gofala gau dy dir â gwrych o ddrain,a chlo dy arian a'th aur yn ddiogel;
25. gofala hefyd am glorian a phwysau i'th eiriau,a rho ddrws a bollt ar dy enau.
26. Gwylia rhag llithro o achos dy dafod,a syrthio'n ysglyfaeth i'r sawl sy'n aros ei gyfle i'th ddal.