Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 28:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. A fyn ddial a wêl ddial gan yr Arglwydd,sy'n cadw cyfrif manwl o'i bechodau.

2. Maddau i'th gymydog ei gamwedd,ac yna cei faddeuant am dy bechodau di, pan ddeisyfi amdano.

3. Os deil rhywun ddig yn erbyn un arall,a all geisio iachâd gan yr Arglwydd?

4. Os na chymer drugaredd ar ei gyd-ddyn,a all ddeisyf maddeuant am ei bechodau ei hun?

5. Os yw ef, nad yw ond cnawd dynol, yn meithrin llid,pwy a rydd iddo buredigaeth ei bechodau?

6. Cofia'r diwedd sy'n dy aros, a gad lonydd i elyniaeth;cofia dy dranc a'th farwolaeth, a glŷn wrth y gorchmynion.

7. Cofia'r gorchmynion, a phaid â bwrw dy lid ar dy gymydog;cofia gyfamod y Goruchaf, ac edrych heibio i anwybodaeth.

8. Ymgadw rhag cweryla, a byddi'n llai dy bechod,oherwydd bydd y gwyllt ei dymer yn ennyn cweryl,

9. a'r pechadurus yn creu helynt rhwng cyfeillion,ac yn tarfu ar bobl heddychlon â'i ensyniadau enllibus.

10. Yn ôl y tanwydd a roir arno y llosga'r tân,ac yn ôl poethder y cweryl y llosga'i fflam yntau;yn ôl ei nerth y bydd llidiogrwydd rhywun,ac yn ôl ei gyfoeth y cwyd ei ddicter.

11. Y mae ymryson sydyn yn cynnau tân,a chweryl sydyn yn peri tywallt gwaed.

12. Chwytha ar wreichionen, a gloywi a wna;poera arni, ac fe ddiffydd;o'th enau di y daw'r ddeubeth.

13. Melltithiwch y clepgi a'r dyblyg ei dafod,oherwydd dinistriodd ef lawer o bobl heddychlon.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 28