Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 27:4-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Wedi ysgwyd gogr, erys y gwehilion;felly y daw gwaethaf rhywun i'r wyneb wrth iddo ddadlau.

5. Y mae'r ffwrn yn profi llestri'r crochenydd,a cheir prawf ar rywun wrth iddo ymresymu.

6. Fel y mae ffrwyth pren yn dangos y driniaeth a gafodd,felly y mae mynegiant rhywun o'i feddyliau yn dangos ei ddiwylliant.

7. Paid â chanmol neb cyn ei glywed yn dadlau,oherwydd dyna'r prawf ar bawb.

8. O geisio cyfiawnder, fe'i cei,a'i wisgo fel gŵn ysblennydd.

9. Bydd adar yn nythu gyda'u tebyg,a bydd gwirionedd yn clwydo gyda'r rhai sy'n ei weithredu.

10. Fel y mae llew'n gwylio'i ysglyfaeth i'w ddal,felly y mae pechod yn gwylio drwgweithredwyr.

11. Traethu doethineb y bydd y duwiol bob amser,ond y mae'r ynfytyn mor gyfnewidiol â'r lleuad.

12. Gwylia dy gyfle i ddianc o gwmni'r diddeall,ond oeda'n hir yng nghwmni'r meddylgar.

13. Ffiaidd yw ymadroddion ffyliaid,a'u chwerthin yn faswedd pechadurus.

14. Y mae siarad un aml ei lwon yn codi gwallt y pen,a chweryla rhai felly'n cau clustiau.

15. Y mae cweryla'r beilchion yn peri tywallt gwaed,a'u difenwi ei gilydd yn merwino'r glust.

16. Y mae bradychwr cyfrinach wedi diddymu pob ymddiriedaeth ynddo,ac ni chaiff gyfaill mynwesol byth mwy.

17. Câr dy gyfaill a bydd yn ffyddlon iddo,ond os bradychi ei gyfrinach, paid â'i ganlyn mwy.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 27