Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 27:24-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Rwy'n casáu llawer o bethau, ond hyn yn fwy na dim,a chas fydd hefyd gan yr Arglwydd.

25. A daflo garreg i'r awyr, fe'i teifl ar ei ben ef ei hun,ac y mae ergyd fradwrus yn clwyfo'r ergydiwr hefyd.

26. A gloddio ffos, fe syrth iddi;a osodo fagl, fe'i delir ynddi.

27. A wnelo ddrwg, arno ef ei hun y treigl yn ôl,ac yntau heb sylweddoli o ble y daeth.

28. Gwatwar a sarhad yw nodau'r balch,ond bydd dial fel llew yn ei wylio, i'w ddal.

29. Eu dal mewn magl a gaiff y rhai sy'n llawenhau yng nghwymp y duwiol,a'u hysu gan ing cyn eu marw.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 27