Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 27:19-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. ac fel y gollyngaist aderyn o'th law,felly y gadewaist i'th gymydog fynd, ac ni chei afael arno eto.

20. Paid â'i ganlyn, oherwydd ciliodd ymhell oddi wrthyt,dihangodd fel ewig o rwyd.

21. Oherwydd gellir rhwymo archoll,a chymodi ar ôl difenwi,ond nid oes gan fradychwr cyfrinach ddim i obeithio amdano.

22. Y mae'r sawl sy'n wincio yn dyfeisio drwg,ac nid oes neb a'i ceidw oddi wrtho.

23. Geiriau melys a draetha i'th wyneb,a bydd yn dotio at dy eiriau dithau,ond wedyn bydd yn newid ei dônac yn dy faglu â'th eiriau dy hun.

24. Rwy'n casáu llawer o bethau, ond hyn yn fwy na dim,a chas fydd hefyd gan yr Arglwydd.

25. A daflo garreg i'r awyr, fe'i teifl ar ei ben ef ei hun,ac y mae ergyd fradwrus yn clwyfo'r ergydiwr hefyd.

26. A gloddio ffos, fe syrth iddi;a osodo fagl, fe'i delir ynddi.

27. A wnelo ddrwg, arno ef ei hun y treigl yn ôl,ac yntau heb sylweddoli o ble y daeth.

28. Gwatwar a sarhad yw nodau'r balch,ond bydd dial fel llew yn ei wylio, i'w ddal.

29. Eu dal mewn magl a gaiff y rhai sy'n llawenhau yng nghwymp y duwiol,a'u hysu gan ing cyn eu marw.

30. Llid a dicter, ffiaidd yw'r rhain hefyd,ond dal ei afael arnynt y bydd y pechadurus.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 27