Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 25:8-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. gwyn ei fyd y gŵr a chanddo wraig ddeallus yn ei gartref,a'r sawl na lithrodd â'i dafod;a'r sawl na fu'n was i feistr annheilwng ohono;

9. gwyn ei fyd y sawl a gafodd hyd i ddealltwriaeth;a'r sawl sy'n traethu yng nghlyw rhai sy'n gwrando arno.

10. Mor fawr yw'r sawl a ddaeth o hyd i ddoethineb!Ond nid oes neb mwy na'r sawl sy'n ofni'r Arglwydd.

11. Y mae ofn yr Arglwydd yn rhagori ar bopeth;pwy sydd i'w gymharu â'r sawl sydd â'i afael arno?

13. Unrhyw glwyf ond clwyf i'r galon!Unrhyw falais ond malais gwraig!

14. Unrhyw aflwydd ond aflwydd o du caseion!Unrhyw ddial ond dial gelynion!

15. Nid oes gwenwyn gwaeth na gwenwyn sarff,na llid gwaeth na llid gelyn.

16. Dewisach gennyf gartrefu gyda llew neu ddraigna chartrefu gyda gwraig faleisus.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 25