20. Fel dringo twyn tywod i draed hynafgwryw byw gyda gwraig dafotrydd i ŵr tawel.
21. Paid â syrthio'n ysglyfaeth i brydferthwch gwraig,na rhoi dy fryd ar feddiannu gwraig.
22. Dicter, hyfdra ac amarch mawrfydd rhan gŵr os ei wraig sy'n ei gynnal.
23. Iselder ysbryd, gwedd wynepdrist,a chalon glwyfus a rydd gwraig faleisus;dwylo llesg a gliniau gwanfydd i'r gŵr nad yw ei wraig yn achos gwynfyd iddo.
24. O wraig y tarddodd pechod,ac o'i hachos hi yr ydym oll yn marw.
25. Paid â rhoi cyfle i ddŵr ollwng,na chyfle i wraig faleisus siarad yn ddiatal.
26. Os na chymer ei harwain gennyt,tor bob cyfathrach â hi.