Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 25:13-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Unrhyw glwyf ond clwyf i'r galon!Unrhyw falais ond malais gwraig!

14. Unrhyw aflwydd ond aflwydd o du caseion!Unrhyw ddial ond dial gelynion!

15. Nid oes gwenwyn gwaeth na gwenwyn sarff,na llid gwaeth na llid gelyn.

16. Dewisach gennyf gartrefu gyda llew neu ddraigna chartrefu gyda gwraig faleisus.

17. Y mae malais gwraig yn newid ei gwedd,a duo'i hwyneb fel wyneb arth.

18. Gyda'i gymdogion y bydd ei gŵr yn cymryd ei brydau,ac yn methu peidio ag ochneidio'n ddwys.

19. Bach yw pob drygioni yn ymyl drygioni gwraig;syrthied iddi gyfran pechadur!

20. Fel dringo twyn tywod i draed hynafgwryw byw gyda gwraig dafotrydd i ŵr tawel.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 25