1. Mewn tri pheth yr ymhyfrydaf, pethau sy'n brydferthyng ngolwg yr Arglwydd a'r ddynol ryw:cytundeb rhwng pobl, cyfeillgarwch rhwng cymdogion,a gŵr a gwraig yn cyd-dynnu â'i gilydd.
2. Y mae tri math o bobl sy'n gas gennyf,a'u buchedd yn ffiaidd iawn yn fy ngolwg:y tlawd bostfawr, y cyfoethog celwyddog,a'r henwr godinebus prin o synnwyr.
3. Oni chesglaist ddim yn dy ieuenctid,sut y cei afael ar ddim yn dy henaint?
4. Mor hardd yw barn mewn rhai penwyn,a chyngor a phwyll mewn hynafgwyr!
5. Mor hardd yw doethineb yr oedrannus,a deall a chyngor mewn rhai uchel eu parch!
6. Profiad helaeth yw coron yr oedrannus,ac ofn yr Arglwydd yw eu hymffrost.
7. Y mae naw peth sy'n wynfydedig yn fy meddwl,a'r degfed yr wyf am ei draethu ar lafar:dyn yn cael llawenydd yn ei blant;dyn yn byw i weld cwymp ei elynion;
8. gwyn ei fyd y gŵr a chanddo wraig ddeallus yn ei gartref,a'r sawl na lithrodd â'i dafod;a'r sawl na fu'n was i feistr annheilwng ohono;
9. gwyn ei fyd y sawl a gafodd hyd i ddealltwriaeth;a'r sawl sy'n traethu yng nghlyw rhai sy'n gwrando arno.