Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 25:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Mewn tri pheth yr ymhyfrydaf, pethau sy'n brydferthyng ngolwg yr Arglwydd a'r ddynol ryw:cytundeb rhwng pobl, cyfeillgarwch rhwng cymdogion,a gŵr a gwraig yn cyd-dynnu â'i gilydd.

2. Y mae tri math o bobl sy'n gas gennyf,a'u buchedd yn ffiaidd iawn yn fy ngolwg:y tlawd bostfawr, y cyfoethog celwyddog,a'r henwr godinebus prin o synnwyr.

3. Oni chesglaist ddim yn dy ieuenctid,sut y cei afael ar ddim yn dy henaint?

4. Mor hardd yw barn mewn rhai penwyn,a chyngor a phwyll mewn hynafgwyr!

5. Mor hardd yw doethineb yr oedrannus,a deall a chyngor mewn rhai uchel eu parch!

6. Profiad helaeth yw coron yr oedrannus,ac ofn yr Arglwydd yw eu hymffrost.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 25