Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 24:21-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Y rhai a ymborthant arnaf, newynu am fwy y byddant,a'r rhai a yfant ohonof, sychedu am fwy y byddant.

22. Ni bydd cywilydd ar neb a fydd yn ufudd i mi,ac ni phecha neb a fydd yn gweithio dan fy nghyfarwyddyd.”

23. Llyfr cyfamod y Duw Goruchaf yw hyn oll,y gyfraith a orchmynnodd Moses i ni,i fod yn etifeddiaeth i gynulleidfaoedd Jacob.

25. Y mae'n peri i ddoethineb orlifo fel Afon Phison,ac fel Afon Tigris yn nyddiau'r blaenffrwyth;

26. y mae'n chwyddo dealltwriaeth yn llifeiriant fel Afon Ewffrates,ac fel yr Iorddonen yn nyddiau'r cynhaeaf;

27. y mae'n peri i addysg ddisgleirio fel goleuni,ac fel Gihon yn nyddiau'r cynhaeaf gwin.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 24