Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 22:4-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Bydd merch gall yn cael gŵr yn etifeddiaeth iddi,ond gofid i'r tad a'i cenhedlodd yw merch sy'n ei waradwyddo.

5. Y mae merch ryfygus yn gwaradwyddo'i thad a'i gŵr,a chaiff ei dirmygu gan y naill a'r llall.

6. Y mae ymddiddan anamserol fel cerdd ar adeg galar,ond y mae ffrewyll bob amser yn ddisgyblaeth ddoeth.

7. Y mae dysgu ffŵl fel gludio darnau o lestr ynghyd,neu fel deffro cysgadur o'i drymgwsg.

8. Y mae ymresymu â ffŵl fel ymresymu â rhywun cysglyd;wedi iti orffen y mae'n gofyn, “Beth sy'n bod?”

11. Wyla dros un marw, oherwydd diffodd ei dân,ac wyla dros y ffôl, oherwydd diffodd ei synnwyr.Wyla'n llawen dros un marw, oherwydd cafodd ef orffwys,ond gwaeth nag angau yw bywyd y ffôl.

12. Saith diwrnod o alar sydd i'r marw,ond i'r ffŵl annuwiol, holl ddyddiau ei oes.

13. Paid ag amlhau geiriau gydag ynfytynnac ymweld â rhywun diddeall.Gwylia rhagddo, rhag iti gael trafferth,a chael dy halogi, yn wir, pan fydd yn ysgwyd y baw oddi arno.Tro dy gefn arno, ac fe gei lonydd,a dianc rhag blinder ei orffwylltra ef.

14. Beth sy'n drymach na phlwm?Pa enw sydd arno ond Ffŵl?

15. Tywod, halen a thalp o haearn,maent i gyd yn llai o faich na rhywun diddeall.

16. Os bydd y trawsbren wedi ei osod yn ddiogel mewn adeilad,ni symudir ef o'i le gan ddaeargryn.Felly'r meddwl, pan fydd yn sefyll yn gadarn ar gyngor doeth,ni therfir arno mewn argyfwng.

17. Y mae'r meddwl a gadarnhawyd gan syniadau deallusfel pared llyfn wedi ei blastro'n gain.

18. Ffens wedi ei gosod ar dir uchel,ni saif yn hir yn nannedd y gwynt.Felly'r meddwl a wnaed yn ofnus gan ddychmygion ffôl,ni saif yn hir yn wyneb yr un dychryn a ddaw.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 22