Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 22:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Cywilydd i'r tad a'i cenhedlodd yw mab heb ei hyfforddi,a cholled yw geni merch iddo.

4. Bydd merch gall yn cael gŵr yn etifeddiaeth iddi,ond gofid i'r tad a'i cenhedlodd yw merch sy'n ei waradwyddo.

5. Y mae merch ryfygus yn gwaradwyddo'i thad a'i gŵr,a chaiff ei dirmygu gan y naill a'r llall.

6. Y mae ymddiddan anamserol fel cerdd ar adeg galar,ond y mae ffrewyll bob amser yn ddisgyblaeth ddoeth.

7. Y mae dysgu ffŵl fel gludio darnau o lestr ynghyd,neu fel deffro cysgadur o'i drymgwsg.

8. Y mae ymresymu â ffŵl fel ymresymu â rhywun cysglyd;wedi iti orffen y mae'n gofyn, “Beth sy'n bod?”

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 22