Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 22:23-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Ennill ymddiriedaeth dy gymydog yn ei dlodi,fel y cei gydgyfranogi ag ef yn ei lwyddiant;glŷn wrtho yn amser ei gyfyngder,fel y cei ran gydag ef yn ei etifeddiaeth.

24. Ceir tawch a mwg o'r ffwrnais cyn bod fflam,a'r un modd ddifenwi cyn tywallt gwaed.

25. Ni bydd arnaf gywilydd cysgodi cyfaill;nid ymguddiaf rhag iddo fy ngweld.

26. Os digwydd niwed i mi o'i achos ef,bydd pawb a glyw ar eu gwyliadwriaeth rhagddo.

27. Pwy a rydd wyliadwriaeth ar fy ngenaua sêl pwyll ar fy ngwefusau,i'm cadw rhag syrthio o'u hachos,a chael fy ninistrio gan fy nhafod?

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 22