Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 22:15-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Tywod, halen a thalp o haearn,maent i gyd yn llai o faich na rhywun diddeall.

16. Os bydd y trawsbren wedi ei osod yn ddiogel mewn adeilad,ni symudir ef o'i le gan ddaeargryn.Felly'r meddwl, pan fydd yn sefyll yn gadarn ar gyngor doeth,ni therfir arno mewn argyfwng.

17. Y mae'r meddwl a gadarnhawyd gan syniadau deallusfel pared llyfn wedi ei blastro'n gain.

18. Ffens wedi ei gosod ar dir uchel,ni saif yn hir yn nannedd y gwynt.Felly'r meddwl a wnaed yn ofnus gan ddychmygion ffôl,ni saif yn hir yn wyneb yr un dychryn a ddaw.

19. Y mae pigo'r llygad yn tynnu dagrau ohono,ac y mae pigo'r meddwl yn amlygu ei hydeimledd.

20. Y mae taflu carreg at adar yn tarfu arnynt,ac y mae edliw i gyfaill yn difa'r cyfeillgarwch.

21. Os tynnaist gleddyf ar gyfaill,paid ag anobeithio; y mae modd adfer y cyfeillgarwch.

22. Os ymosodaist ar gyfaill â'th dafod,paid â phoeni; y mae cymod yn bosibl.Ond edliw a balchder a bradychu cyfrinach a chernod dwyllodrus—o brofi'r rhain ffoi a wna pob cyfaill.

23. Ennill ymddiriedaeth dy gymydog yn ei dlodi,fel y cei gydgyfranogi ag ef yn ei lwyddiant;glŷn wrtho yn amser ei gyfyngder,fel y cei ran gydag ef yn ei etifeddiaeth.

24. Ceir tawch a mwg o'r ffwrnais cyn bod fflam,a'r un modd ddifenwi cyn tywallt gwaed.

25. Ni bydd arnaf gywilydd cysgodi cyfaill;nid ymguddiaf rhag iddo fy ngweld.

26. Os digwydd niwed i mi o'i achos ef,bydd pawb a glyw ar eu gwyliadwriaeth rhagddo.

27. Pwy a rydd wyliadwriaeth ar fy ngenaua sêl pwyll ar fy ngwefusau,i'm cadw rhag syrthio o'u hachos,a chael fy ninistrio gan fy nhafod?

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 22