Hen Destament

Testament Newydd

Ecclesiasticus 22:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Y mae'r diog yn debyg i garreg a faeddwyd,a bydd pawb yn ei hisian ymaith yn ei warth.

2. Y mae'r diog yn debyg i domen dail,a bydd pawb sy'n ei godi yn ei ysgwyd oddi ar ei law.

3. Cywilydd i'r tad a'i cenhedlodd yw mab heb ei hyfforddi,a cholled yw geni merch iddo.

4. Bydd merch gall yn cael gŵr yn etifeddiaeth iddi,ond gofid i'r tad a'i cenhedlodd yw merch sy'n ei waradwyddo.

5. Y mae merch ryfygus yn gwaradwyddo'i thad a'i gŵr,a chaiff ei dirmygu gan y naill a'r llall.

6. Y mae ymddiddan anamserol fel cerdd ar adeg galar,ond y mae ffrewyll bob amser yn ddisgyblaeth ddoeth.

7. Y mae dysgu ffŵl fel gludio darnau o lestr ynghyd,neu fel deffro cysgadur o'i drymgwsg.

8. Y mae ymresymu â ffŵl fel ymresymu â rhywun cysglyd;wedi iti orffen y mae'n gofyn, “Beth sy'n bod?”

11. Wyla dros un marw, oherwydd diffodd ei dân,ac wyla dros y ffôl, oherwydd diffodd ei synnwyr.Wyla'n llawen dros un marw, oherwydd cafodd ef orffwys,ond gwaeth nag angau yw bywyd y ffôl.

12. Saith diwrnod o alar sydd i'r marw,ond i'r ffŵl annuwiol, holl ddyddiau ei oes.

Darllenwch bennod gyflawn Ecclesiasticus 22