6. Y mae rhywun sy'n casáu cerydd yn dilyn camre pechadur,ond y mae'r sawl sy'n ofni'r Arglwydd yn edifarhau o'i galon.
7. Adwaenir o bell yr un rhugl ei dafod,ond y mae'r call yn gwybod pan yw'n llithro.
8. Y mae'r sawl sy'n adeiladu ei dŷ ag arian pobl eraillfel un yn casglu iddo'i hun gerrig at y gaeaf.
9. Pentwr o danwydd yw cynulliad y digyfraith,a fflamau tân fydd eu diwedd hwy.
10. Y mae ffordd pechaduriaid wedi ei phalmantu â cherrig,ond ei therfyn yw pydew Trigfan y Meirw.
11. Y mae'r sawl sy'n cadw'r gyfraith yn feistr ar ei feddyliau ei hun,a chyflawni ofn yr Arglwydd y mae doethineb.
12. Y sawl nad yw'n glyfar, ni ellir ei hyfforddi,ond y mae yna glyfrwch sy'n lledu chwerwedd.